Mae papur gwyddonol newydd gan dîm SMARTAQUA bellach ar gael ar-lein

Mae papur gwyddonol newydd gan dîm SMARTAQUA bellach ar gael ar-lein

 

Mae’r astudiaeth newydd hon yn nodi dau enyn yn Nile tilapia sy’n gysylltiedig â mynegiant straen mewn amgylcheddau gorlawn: sstl a fosa. Mae hyn yn newyddion da i fridwyr oherwydd gallai fod yn bosibl bridio pysgod yn ddetholus sy’n perfformio’n well o dan amodau gorlawn.

Ffigur 1. Sefyllfa arbrofol ar gyfer symbyliad drychddelwedd a ddefnyddir i asesu ymddygiad ymosodol yn Nile tilapia

Mae dyframaeth wedi bod yn ceisio dwysáu – tyfu mwy gyda llai. Yn achos ffermio pysgod, mae hyn yn cynnwys mwy o bysgod mewn llai o le, gyda llai o ddŵr, a llai o borthiant. Mae hyn yn gofyn am ddethol rhywogaethau ac unigolion yn ofalus a fydd yn perfformio’n dda mewn amgylcheddau gorlawn. Mae dofi pysgod yn newid ymddygiad cymdeithasol ac ymddygiad ymosodol yw un o’r ymddygiadau allweddol mewn lleoedd gorlawn. Yn achos Nile tilapia mae dwysedd stocio uchel yn achosi newid o ymddygiad antagonistig (ymosodol) i ymddygiad heigio.

Ein rhagdybiaeth oedd y byddai dwysedd magu yn dylanwadu ar amlder ymddygiad ymosodol – byddai unigolion â gwahanol lefelau o ymddygiad ymosodol ac arddulliau ymdopi â straen yn amrywio o ran mynegiant genynnau allweddol sy’n rhan o’r ymateb i straen. Daethom i’r casgliad bod y gorlenwi yn atal ymddygiad ymosodol yn Nile tilapia ac yn arwain at newidiadau yn y mynegiant o enynnau sy’n gysylltiedig â straen sy’n cyd-fynd â’r symudiad o hierarchaethau cymdeithasol a gynhelir gan ryngweithio agonistig ar ddwysedd isel, i heigio ar ddwysedd uchel.

  1. Rodriguez-Barreto,O. Rey, T. Uren Webster, G. Castaldo, S. Consuegra, C. Garcia de Leaniz, Transcriptomic response to aquaculture intensification in Nile tilapia, (2019). doi:10.6084/m9.figshare.8198408.v1.

Gellir gweld y papur llawn yma https://onlinelibrary.wiley.com/doi/full/10.1111/eva.12830

 

 

SMARTAQUA: aquaculture beyond food is supported by the Welsh Government and the European Regional Development Fund.

Registered Address

Swansea University
Singleton Park,
Sketty,
Swansea
SA2 8PP