Mae blawd pysgod ac olewau pysgod morol yn cael eu defnyddio’n gyffredin mewn bwydydd dyframaeth (dyfrfwydydd), yn bennaf oherwydd eu bod yn cynnwys llawer o broteinau buddiol o safon uchel ac asid brasterog amlannirlawn omega 3 cadwyn hir (n-3 LC-PUFA). Fodd bynnag, mae’r cyflenwad naturiol o bysgod morol yn gyfyngedig, ac mae arwyddion eisoes fod dyframaeth yn rhoi baich mawr ar adnoddau pysgod gwyllt, gan fod y diwydiant yn defnyddio 68% ac 88% o’r cyflenwad byd-eang blynyddol o flawd pysgod ac olew pysgod, yn y drefn honno. Gan fod y cyflenwad yn lleihau a’r prisiau’n codi, mae deunyddiau crai eraill yn cael eu defnyddio i greu dyfrfwydydd. Ymhlith cynhwysion dyfrfwyd amgen o’r fath y mae microalgâu, sy’n cynnig rhai o’r dewisiadau gorau yn lle cynhwysion sy’n deillio o flawd pysgod ac olew pysgod.
Mae busnesau bach a chanolig yng Nghymru yn cystadlu’n uniongyrchol â chwmnïau dyfrfwyd rhyngwladol mawr. Drwy gynhyrchu deietau pysgod cyfnerthedig newydd, gan ddefnyddio microalgâu, bydd Cymru mewn sefyllfa gryfach mewn sector sy’n tyfu’n gyflym. Fodd bynnag, er mwyn sicrhau bod cynnyrch y busnesau’n cyrraedd y farchnad, mae angen profi dyfrfwydydd a chynhyrchion maethyllol fferyllol newydd yn drwyadl, a bydd SMARTAQUA yn cynnig hyn.