Pysgod acwariwm

Pysgod acwariwm

Mae masnach pysgod addurnol yn ddiwydiant gwerth biliynau o ddoleri – y DU yw’r mewnforiwr mwyaf yn Ewrop. Mae SMARTAQUA am gefnogi datblygiad y diwydiant pysgod addurnol yng Nghymru a darparu pysgod trofannol wedi’u ffermio’n gynaliadwy i bobl sy’n ymddiddori mewn acwaria.

Mae cadw pysgod yn ddiddordeb ers canrifoedd – bellach mae’n dod yn ffasiynol ac yn broffidiol. Mae gan ystafelloedd aros, cynteddau gwestai a bwytai acwaria addurnol – maen nhw’n brydferth ac yn help i ymlacio. Mae gwylio pysgod ac organebau dyfrol eraill yn archwilio eu hamgylchedd, yn cuddio y tu ôl i blanhigyn neu’n chwilio’r swbstrad yn hypnotig ond yn gysurlon hefyd. Mae’n lleihau pwysedd gwaed ac yn cael effaith gadarnhaol ar ein llesiant.

Ond o ble mae’r pysgod hyn yn dod, faint o rywogaethau sy’n cael eu masnachu, beth yw maint y diwydiant yn y DU, ac yng Nghymru?

Aquarium fishBob blwyddyn, mae dros 2,500 o wahanol rywogaethau o bysgod yn cael eu masnachu ar gyfer y diwydiant acwaria, ond 30 o rywogaethau dŵr croyw sydd fwyaf poblogaidd yn y farchnad; y rhai mwyaf cyffredin yw’r gypi, tetra neon, pysgodyn angel, pysgodyn aur, danio rhesog a’r pysgodyn disg. Mae’r rhywogaethau dŵr croyw hyn yn cael eu bridio mewn caethiwed yn bennaf, sy’n wahanol i’r 98% o bysgod môr addurnol sy’n cael eu casglu o’r gwyllt.

Beth am weld sut maen nhw’n gwneud hynny ac ymuno â’n rhwydwaith o eco-arloeswyr yn y diwydiant dyframaeth di-fwyd.

 

 

SMARTAQUA: aquaculture beyond food is supported by the Welsh Government and the European Regional Development Fund.

Registered Address

Swansea University
Singleton Park,
Sketty,
Swansea
SA2 8PP