Pysgod ar gyfer ymchwil biofeddygol

Pysgod ar gyfer ymchwil biofeddygol

Mae ymchwilwyr yn defnyddio amrywiaeth o organebau model i astudio clefydau dynol – gyda’r pysgodyn rhesog yn un ohonynt. Pysgodyn dŵr croyw yw’r pysgodyn rhesog ac mae 70% o’i enynnau’r un fath â genynnau pobl. Bydd SMARTAQUA yn datblygu llinellau pysgod i astudio clefydau’r galon, canser a gordewdra.

Pysgodyn rhesog

Llygod a llygod mawr yw 95% o’r anifeiliaid a ddefnyddir mewn ymchwil o hyd. Ond mae pysgod rhesog yn dod yn fwyfwy poblogaidd fel model ymchwil ar gyfer clefydau dynol. Yn y 12 mlynedd diwethaf, mae’r defnydd o bysgod rhesog wedi cynyddu’n sylweddol – mae yna ddilyniant llawn i’w genom ac mae wedi’i gofnodi’n dda.

Maen nhw’n hanu o ranbarth de-ddwyrain Himalaiaidd Asia’n wreiddiol ac maen nhw’n ymaddasu’n dda i acwaria. O’u cymharu â llygod, maen nhw’n fach, nid oes angen llawer o le arnynt, ac maen nhw’n atgynhyrchu’n gyflym ac mewn niferoedd mawr. Gall llygoden gael torraid o 10 epil sydd angen tair wythnos lawn yn y groth i ddatblygu.

Mewn cymhariaeth, gall pysgod rhesog ddodwy 100-500 o wyau’r wythnos; mae’r embryonau a’r larfau yn dryloyw ac yn datblygu’n gyflym – gallwn wylio’r corff yn ffurfio. Ar ôl ffrwythloni, mae’r cellraniad cyntaf yn digwydd ymhen 45 munud, mae’r llygaid yn dechrau ffurfio ymhen 36 awr a bydd y pysgodyn yn nofio ymhen 5 diwrnod. Hefyd, gall gwyddonwyr wylio effaith ychwanegu neu ddileu genynnau yn y cam un gell a gwirio effaith hynny yn y pysgodyn llawn dwf yn gyflym.

Mae nodweddion o’r fath yn unigryw ac yn gwbl wahanol i’r holl anifeiliaid eraill a ddefnyddir fel model ar gyfer clefydau dynol.

Killifish

Ond nid y pysgodyn rhesog yw’r unig anifail dyfrol sydd o ddiddordeb i wyddoniaeth, mae gan y pysgodyn abwyd mangrof – y pysgodyn mwyaf eithafol ar y ddaear – botensial enfawr hefyd.

BBC Earth sy’n eu disgrifio orau:

Mae pysgod abwyd yn byw’n gyflym, yn marw’n ifanc, yn cael rhyw rhyfedd ac yn hela ar y tir hyd yn oed.

Mae hyn i gyd yn wir ond, yn ôl pob tebyg, rhyw yw’r nodwedd bwysicaf o ran ymchwil. Mae’r pysgodyn abwyd mangrof, Kryptolebias marmoratus, yn fenyw-wrywaidd – mae ganddo organau rhyw gwrywaidd a benywaidd, ac mae’n un o’r unig ddau fertebriad hysbys sy’n gallu ei ffrwythloni ei hun, gan gynhyrchu clonau sydd yn union yr un fath yn enetig. 
 

Bydd SMARTAQUA yn datblygu’r ymchwil sydd ei hangen i gyflwyno i’r farchnad fyd-eang bysgodyn model mewnfrid naturiol newydd – y pysgodyn abwyd mangrof – sydd â llai o amrywiaeth enetig ac a fydd yn bysgodyn newydd addas ar gyfer llawer o’r astudiaethau ymchwil meddygol sy’n defnyddio pysgod rhesog. Drwy ddatblygu anifail model unigryw sydd â nodweddion biolegol a ddymunir, mae potensial i greu cyfleoedd buddsoddi pwysig yng Nghymru ymhlith busnesau bach a chanolig, a chan gwmnïau fferyllol mwy.
Beth am weld sut maen nhw’n gwneud hynny ac ymuno â’n rhwydwaith o eco-arloeswyr yn y diwydiant dyframaeth di-fwyd.

 

 

SMARTAQUA: aquaculture beyond food is supported by the Welsh Government and the European Regional Development Fund.

Registered Address

Swansea University
Singleton Park,
Sketty,
Swansea
SA2 8PP