Cylchgrawn Ffermwyr Pysgod yn adrodd ar arbenigedd CSAR ar gyfer lles ieir môr
Canmolwyd arbenigedd ymchwilydd CSAR ar iechyd a lles yn y cylchgrawn ffermwyr pysgod diweddaraf (Rhag 2020, tudalennau 46-49).
Mae’r erthygl yn tynnu sylw at ymchwil CSAR ar les ieir môr. Mae Jim Treasurer, awdur yr erthygl, yn tynnu sylw at symlrwydd ac eglurder y dull hwn o asesu lles ieir môr yn gyflym: “I ddechrau, meddyliais y byddai cyfrifo mynegai cyfunol yn rhy gymhleth, ond mae symlrwydd y dull i’w weld yn y siart ar dudalen 8 o’u papur (Rabdan a chyd-weithwyr)”.
Mae CSAR bellach wedi ymrwymo i gefnogi’r gwaith o roi’r mynegai lles syml hwn ar waith drwy brosiect newydd a ariennir gan Gronfa Arloesedd Bwyd Môr.