Mae SMARTAQUA yn Cefnogi Cynnig Gweithredu Ymchwil ac Arloesi Ewropeaidd

Mae SMARTAQUA yn Cefnogi Cynnig Gweithredu Ymchwil ac Arloesi Ewropeaidd

Yn seiliedig ar allbwn ymchwil rhagorol prosiect SMARTAQUA, mae aelodau o dîm y prosiect wedi cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn cynnig Gweithredu Ymchwil ac Arloesi Horizon Europe.

Nod y prosiect yw mynd i’r afael â materion iechyd a lles anifeiliaid, sydd o flaenoriaeth ymchwil uchel ar gyfer dyframaethu Ewropeaidd. Yn benodol, mae gwella lles anifeiliaid tra’n lleihau’r defnydd o gyffuriau milfeddygol yn flaenoriaethau ymchwil cyfredol yn unol â lleihau effaith amgylcheddol y diwydiant. Mae atal, neu leihau effaith afiechyd yn hollbwysig i gynhyrchwyr, ymchwilwyr a rhanddeiliaid. Yn ogystal, mae ymwybyddiaeth y cyhoedd o iechyd a lles anifeiliaid dyfrol yn arwain at fwy o sylw gan lunwyr polisi, y gymuned wyddonol a’r defnyddwyr i ddulliau newydd o atal clefydau.

Bydd ymchwil SMARTAQUA i les pysgod talpiog a’r offer a’r SoPs a gynhyrchir yn seiliedig ar yr ymchwil hwn, yn cefnogi’r prosiect mawr hwn, os caiff ei ariannu, fel rhan o’r Fargen Werdd Ewropeaidd.

 

 

SMARTAQUA: aquaculture beyond food is supported by the Welsh Government and the European Regional Development Fund.

Registered Address

Swansea University
Singleton Park,
Sketty,
Swansea
SA2 8PP