Technegwyr SMARTAQUA wedi’u henwebu ar gyfer Gwobr
Ers 2014, mae Prifysgol Abertawe wedi dyfarnu rhagoriaeth ymchwil trwy ei Gwobrau Ymchwil ac Arloesedd blynyddol. Mae’r gwobrau’n cydnabod ansawdd, perthnasedd ac effaith gadarnhaol fyd-eang ymchwil Prifysgol Abertawe a’i photensial i ysbrydoli.
Yn 2022, enwebwyd technegwyr SMARTAQUA ar gyfer “Gwobr Cyfraniad Technegydd Eithriadol”. Tra aeth y wobr i Ian Hemming ar y noson, rydym wrth ein bodd bod effaith eithriadol tîm SMARTAQUA ym Mhrifysgol Abertawe wedi’i gydnabod.