Ar 18 Medi, cafodd tîm SMARTAQUA y pleser o groesawu Bwrdd ac Aelodau Gweithredol o’r Asiantaeth Safonau Bwyd (FSA).
Cafwyd taith dywys o gyfleusterau dyframaeth y Ganolfan Ymchwil Dyfrol Cynaliadwy dan arweiniad Mr Craig Pooley a Dr Sara Barrento.
Gyda’i gilydd, dangoswyd ffrwyth ymchwil SMARTAQUA: dyframaeth y tu hwnt i fwyd – yn canolbwyntio ar gynhyrchu pysgod brodorol glanach, pysgod ar gyfer ymchwil biofeddygol, bwydydd dyfrol a deunyddiau maethol-fferyllol.
.
Roedd gan aelodau’r FSA ddiddordeb yn y prosiect, ac yn llawn chwilfrydedd am feicroalgâu wedi’u haddasu’n enynnol ac olrhain bwyd.
Yn dilyn ymweliad â’r safle, mynychodd staff yr FSA seminar byr gyda’r Athro Carlos Garcia yn sgwrsio am ‘Datblygu adnoddau gwell ar gyfer olrhain pysgod’.