Pa mor wahanol yw ieir môr o dras wahanol?
Mae cyhoeddiad newydd gan dîm SMARTAQUA yn awgrymu bod rhai poblogaethau ieir môr yn fach iawn ac yn cynnwys amrywiaeth genetig isel iawn, sy’n golygu eu bod nhw’n arbennig o fregus i’w gorddefnyddio ac yn agored i fewnfynediad genetig. Cyhoeddir y canlyniadau’r wythnos hon, sy’n dangos gwahaniaethau geneteg a ffenoteipaidd ieir môr (Cyclopterus lumpus) ledled Gogledd yr Iwerydd: mae goblygiadau ar gyfer cadwraeth a dyframaeth, yn dangos bod pum grŵp genetig o’r rhywogaethau – mae’r rhain wedi’u lleoli yng Ngorllewin yr Iwerydd (UDA a Chanada), Canol yr Iwerydd (Gwlad yr Iâ), Dwyrain yr Iwerydd (Ynysoedd Føroyar, Iwerddon, yr Alban, Norwy a Denmarc,), y Sianel (Lloegr) a Môr y Baltig (Sweden).
Yn gyffredinol, daeth yr astudiaeth i’r casgliad:
1. bod ieir môr yn amrywio o ranbarth i ranbarth
2. bod rhai poblogaethau’n ymddangos yn fach
3. na ddylai poblogaethau geneteg-unigryw gael eu trawsleoli os oes perygl y gallant ddianc (rhagofalon)
Mae’r erthygl lawn ar gael yma
2018. Genetic and phenotypic differentiation of lumpfish (Cyclopterus lumpus) across the North Atlantic: implications for conservation and aquaculture. PeerJ 6:e5974
Would you like to learn more about cleaner fish and the role of lumpfish in salmon farms?