Roedd SMARTAQUA yn Gwyddoniaeth Gwych Abertawe 2020
Bu mwy na 3,200 o ymwelwyr yn “Gwyddoniaeth Gwych Abertawe/Super Science Swansea”, fel rhan o Wythnos Gwyddoniaeth Prydain, ar ddydd Sul 8 Mawrth yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.
Roedd tîm SMARTAQUA wrth law i groesawu pawb ac arddangos eu gwaith. Roeddem yn brysur gan mai dim ond 10% yn llai oedd yno o’i gymharu â ‘Sul Gwych Gwyddoniaeth’ ym mis Mawrth 2019. Cafwyd torf wych a hynny ychydig cyn i ddigwyddiadau mawr ddechrau cael eu gohirio yn sgil y cyfyngiadau coronafeirws.