Sut gall ymchwil meicrobiom fod o fudd i ddyframaeth y DU?
Bu Dr Tamsyn Uren Webster yn rhoi sgwrs mewn gweithdy Canolfan Cydweithredol ar Ymchwil Ddyfarmaeth y DU yn Aberdeen (22-23 Tachwedd 2018).
Cyfuniad o boblogaethau bacteria, archaea, ffyngi a firysau sy’n byw naill ai ar neu mewn anifail yw meicrobiom. Mae’r meicrobiom yn effeithio ar iechyd, twf a lles anifeiliaid a ffermir. Roedd y gweithdy’n canolbwyntio ar elfennau meicrobiom pysgod ag esgyll yn ogystal â physgod cregyn (coluddion, tagellau a chrwyn) yn ogystal ag elfennau meicrobiota yn yr amgylchedd – dŵr. Pwynt trafod Dr Uren Webster oedd effaith straen ar feicrobiom pysgod. Rhagor o fanylion yma