Ymunodd cyfanswm o 262 o gyfranogwyr o 38 o wledydd â’r Ail Symposiwm ar Les mewn Dyframaethu. Eleni, cyflwynwyd y symposiwm ar-lein ar 26 Tachwedd a chanolbwyntiodd ar Ddangosyddion Lles Gweithredol (OWI) ar gyfer eogiaid, ieir môr, tilapiaid, draenogiaid y môr a merfogiaid y môr. Mae’r weminar ar gael ar YouTube a gellir lawrlwytho’r sgyrsiau o wefan y symposiwm.
Mae’r symposiwm yn ddilyniant o SWELA 2019 a fu’n llwyddiant mawr, a oedd yn canolbwyntio ar Ddangosyddion Lles ar gyfer rhywogaethau Newydd, ac a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Abertawe.
Croesawodd Cyfarwyddwr CSAR, yr Athro Carlos Garcia de Leaniz, ym Mhrifysgol Abertawe y cyfranogwyr, a thynnodd sylw at dri phrif reswm dros gynnal yr ail symposiwm: yr ymwybyddiaeth gynyddol o les pysgod, y cysylltiad rhwng lles pysgod ac iechyd pysgod, a’r angen am ddangosyddion lles gweithredol (OWIs) y gall ffermwyr pysgod eu defnyddio.
Cyflwynodd yr Athro Lluis Tort o Brifysgol Ymreolaethol Barcelona brif sgwrs ar Ddangosyddion Statws Lles ar gyfer Pysgod Fferm. Eglurodd yr Athro Tort yr heriau gwirioneddol o ran mesur lles mewn pysgod a ffermir a nododd, er mai pysgod yw’r anifeiliaid “a ddefnyddir” fwyaf ledled y byd (30,000 miliwn/blwyddyn), mai eu hanghenion lles yw’r lleiaf hysbys. Tynnwyd sylw hefyd at y ffaith bod y rhan fwyaf o wyddonwyr, yn ogystal â’r rhan fwyaf o ddefnyddwyr (73%) yn derbyn bellach y gall pysgod deimlo poen.
Canolbwyntiodd y Dr. Lars Helge Stien, o’r Sefydliad Ymchwil Morol, ar OWI ar gyfer eogiaid ac esboniodd yr heriau o fesur lles mewn amgylchedd cawell gyda miloedd o unigolion; esboniodd y gwahanol ddangosyddion lles hefyd, a rhinweddau cael siartiau llif penderfyniadau clir a lefelau 3 rhybudd sy’n berthnasol i ffermwyr pysgod.
Trafodwyd yr OWIs ar gyfer ieir môr gan Carolina Guhaerez-Rabadan o CSAR – Prifysgol Abertawe. Esboniodd yr heriau o ddiffinio lles ar gyfer rhywogaethau newydd a ffermir megis ieir môr a rhoddodd enghreifftiau o bwysigrwydd mesur dibynadwyedd mewn OWIs, a’r angen am symleiddio a dilysu. Cyflwynodd Carolina Fynegai Sgôr Lles Gweithredol Ieir Môr ymarferol (LOWSI) a thynnodd sylw at y ffaith bod y rhan fwyaf o’r ieir môr a samplwyd ganddi mewn ffermydd eog mewn cyflwr da (70%) gyda dim ond 2% â statws lles gwael.
Tynnodd Dr. Sonia Rey Planellas o Brifysgol Stirling sylw at y ffaith nad oes dim neu fawr ddim OWIs ar gyfer tilapiaid, sef y pysgod fferm pwysicaf ond un yn y byd. Mae tilapiaid yn cael eu ffermio’n bennaf mewn gwledydd sy’n datblygu lle nad yw anghenion lles yn flaenoriaeth bob amser. Her arall yw’r ymddygiad cymdeithasol cymhleth a’r ymddygiad ymosodol a ddangosir gan y rhywogaeth hon.
Trafododd yr Athro Michalis Pavlidis, o Brifysgol Crete, y gwahanol heriau lles a achosir gan ddraenogiaid y môr a merfogiaid y môr ar wahanol gamau cynhyrchu; tynnodd sylw at yr angen i gadw’r tymheredd o fewn y terfynau gorau posibl fel ystyriaeth les allweddol ar gyfer y pysgod fferm pwysig iawn hyn ym Môr y Canoldir. Tynnodd yr Athro Pavlidis sylw at y gwelliannau mawr y mae’r diwydiant wedi’u gwneud i wneud lladd yn broses â llai o boen.
Cyflwynodd Dr. Sofia Teisenira o Sefydliad Tyndall yn Iwerddon, brofion cyflym heb lawdriniaeth gan ddefnyddio synwyryddion deallus y gellir eu defnyddio i fonitro iechyd drwy fesur dangosyddion megis cortisol a pharamedrau eraill sydd â chymwysiadau eang wrth asesu cymhwysedd imiwnedd, straen, twf ac ymddygiad.
Daeth y Symposiwm i ben gyda’r Athro Carlos Garcia de Leaniz yn crynhoi’r trafodaethau ac yn gwahodd mynychwyr i’r Symposiwm nesaf ar Les mewn Dyframaethu a gynhelir yn Crete yn 2021.