Astudiaeth newydd yn darparu atebion ymarferol i wella lles ieir môr
Mae astudiaeth newydd gan dîm SMARTAQUA yn cynnig 16 o atebion ymarferol ar gyfer gwella lles ieir môr ac yn dangos rhinweddau dull Delphi o sicrhau consensws ymhlith rhanddeiliaid ar anghenion lles, gan dargedu ymchwil lle mae ei angen fwyaf a chreu atebion ymarferol.
Cynhaliwyd yr astudiaeth yn ystod y gweithdy a gynhaliwyd gan y Ganolfan Ymchwil Dyfrol Cynaliadwy (CSAR) ar Les Ieir Môr (Abertawe, 14 Mai 2019 <https://www.welfareaquaculture.com/1st-symposium>), gyda 53 o arbenigwyr o dri phrif grŵp rhanddeiliaid yn cymryd rhan: ffermio pysgod, y byd academaidd a lles anifeiliaid. Roedd tri nod i’r astudiaeth: (1) nodi’r prif heriau a’r prif fylchau gwybodaeth sy’n gysylltiedig ag ieir môr, (2) cynnig atebion posibl a nodi cyfleoedd i wella lles ieir môr a (3) asesu graddau’r consensws ymhlith gwahanol randdeiliaid ar werth gwahanol fetrigau lles.
Tynnodd cyfranogwyr sylw at erydiad esgyll a niwed i’r corff fel y dangosyddion lles gweithredol mwyaf defnyddiol ac ymarferol.
Cyfrannodd yr astudiaeth at gais llwyddiannus y Gronfa Arloesi Bwyd Môr. Mae tîm CSAR yn datblygu The Lumpfish Welfare Watcher erbyn hyn – cymhwysiad ar y we sydd â’r nod o helpu ffermwyr pysgod i asesu a gwella lles ieir môr.
Mae mynediad agored i’r erthygl lawn
Garcia de Leaniz, C, Guhaerez Rabadan, C, Barrento, SI, et al. Addressing the welfare needs of farmed lumpfish: Knowledge gaps, challenges and solutions. Rev Aquacult. 2021; 00: 1– 17. https://doi.org/10.1111/raq.12589