Roedd hi’n ddydd Sadwrn llwyd, y trydydd o Dachwedd 2018.
Yn llwyd iawn tu fas ond yn glyd braf yng Ngŵyl Wyddoniaeth Abertawe. Bu criw SMARTAQUA yn croesawu ymwelwyr o bob oed a chefndir.
Roedd gennym wymon, cregyn gleision a physgod mawr a mân. Cafodd plant a rhieni, ac ambell fam-gu a thad-cu, eu syfrdanu’n llwyr gan yr wyau y gallwch weld yn syth drwyddynt – wyau’r pysgodyn rhesog – ac yn rhyfeddu wrth glywed sŵn curiad calon larfa pysgodyn rhesog. Cawsant eu cyfareddu’n lân wrth echdynnu DNA o fefus.
“Ydy hyn i gyd ar gael ym Mhrifysgol Abertawe?”, holodd rhiant i dri o blant. “Ydy, mae tîm SMARTAQUA yn gweithio gydag organebau dyfrol i wella ymchwil biofeddygol, y diwydiant pysgod addurnol, a bwydydd dyfrol yn y Ganolfan Ymchwil Dyfrol Cynaliadwy.”